Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mai 2020
Amser:
14.10 -
15.35
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6094
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Suzy Davies AS Janet Finch-Saunders AS Siân Gwenllian AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Nicola Edwards, Llywodraeth Cymru Yr Athro Jean White, Llywodraeth Cymru Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei bod hi wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i warchod iechyd y cyhoedd.
1.3 Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden AC yn camu i’r adwy fel Cadeirydd Dros Dro yn achos unrhyw broblemau technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
2.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Gweinidog
a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ynghylch COVID-19 a’i effaith ar blant a phobl ifanc.
2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor unwaith i’r adroddiad ar farwolaethau annisgwyl ar ddechrau’r pandemig COVID-19 yng Nghymru gael ei gyhoeddi ac unwaith i Lywodraeth Cymru gael cyfle i’w ystyried.
2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gymryd y camau a ganlyn:
· rhoi gwybod faint o’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth drwy Gronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector a Chronfa Cadernid y Trydydd Sector, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc;
· egluro faint o’r cyllid ar gyfer gwasanaethau trydydd sector sy’n golygu parhau â gwaith presennol a faint sy’n gyllid ychwanegol; a
· chadarnhau’r amserlenni adrodd ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a fydd yn gweithio gyda chynrychiolwyr gofalwyr i drafod anghenion penodol ystod eang o ofalwyr yn ystod y pandemig COVID-19 ac ar ôl iddo ddod i ben.
3.1 Cyn i’r Pwyllgor gytuno i’r cynnig, nododd y Cadeirydd mai’r cyfarfod hwn oedd busnes ffurfiol olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddo ddod yn Senedd Cymru.
3.2 Cafodd y cynnig ei dderbyn.
4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu, gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am rai o’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
5.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar waith arfaethedig y Pwyllgor ynghylch COVID-19. Cytunodd yr Aelodau ar raglen waith i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid, a hynny gan flaenoriaethu’r meysydd a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:
· effaith COVID-19 ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc; ac
· effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach.